info@designbanc.co.uk
t 01492 585070 / 35 Station Road, Deganwy, Conwy north wales, LL31 9DF



English/ Cymraeg

amdanom ni

Cynllunwyr graffeg creadigol a stiwdio farchnata ydym ni wedi'n lleoli yn Neganwy, Conwy, Gogledd Cymru. Rydym yn byrlymu o syniadau creadigol, ymarferol yngl ŷ n â strategaeth cynllunio, hunaniaeth corfforaethol, delwedd, llenyddiaeth cwmniau a chynllunio gwefannau. Mae pob sialens yn bleser, boed gan gwmniau bychain newydd neu gyfundrefnau mawrion, ac ymfalchiwn yn ein hymroddiad, ffresni a chreadigrwydd wrth fynd o gwmpas ein gwaith.

Cyfrinach ein llwyddiant a'r hyn sy'n cadw'n cwsmeriaid yn hapus yw mai'r Cyfarwyddwyr eu hunain sy'n gweithio ar bob un o'n prosiectau. Cyn sefydlu designbanc yn 2002 bu'r ddau yn gweithio yn y maes am ddeuddeng mlynedd yn Llundain a Manceinion. Gall y cwsmer fod yn dawel ei feddwl mai'r person y maent wedi cysylltu ag o/ hi ar y cychwyn yw'r union berson fydd yn cyflawni'r gwaith. Dyna'n haddewid i chi.

Rydym yn gystadleuol o ran gwaith a phris ac yn ddwyieithog.

Ewch draw i'n tudalen Tystlythyrau i weld beth sydd gan ein cwsmeriaid i'w ddweud amdanom.



cynllunio ar gyfer argraffu

Gallwn eich helpu gyda logos newydd, delwedd, deunydd ysgrifennu, llyfrynnau, taflenni, llythyrau uniongyrchol, hysbysebu, adroddiadau cwmni, a'ch cynghori am eich holl anghenion argraffu ar gyfer marchnata a strategaethau busnes newydd. Mae designbanc yn cymeryd cyfrifoldeb llwyr am greu'r cysyniadau, y testun, y photographiaeth a'r argraffu. Rydym yn wasanaeth cynllunio ac argraffu cyflawn a hynny i gyd o dan yr unto.

cyllunio gwefannau

Credwn bod cynllunio gwefan effeithiol yn gwbl allweddol i dwf unrhyw fusnes. Rydym yn cynllunio a datblygu gwefannau fydd yn hwb i dyfiant a datblygiad eich cwmni ac yn diffinio'ch gweledigaeth i'r dyfodol.