- ‘Rydym wedi gweithio gyda Rachel a Charles yn Designbanc ar y pecyn marchnata ar gyfer ein datblygiad tai diweddaraf. Maen nhw'n deall anghenion y cleient ac yn dangos proffesiynoldeb ac arbenigedd yn eu gwaith. Mae'r gwasanaeth yn gyfeillgar a thrylwyr ac edrychwn ymlaen i weithio gyda nhw yn y dyfodol. Fuasen ni ddim yn meddwl ddwywaith i gymeradwyo eu gwaith penigamp i gwmniau eraill.'
M T Nield MICHAEL NIELD HOMES - ‘Dim ond ers mis yr ydym wedi ymwneud â design banc , ond yn y cyfnod hwn maent wedi creu dwy wefan i ni. Roedd hyn yn cynnwys cynllunio, paratoi logo, ysgrifennu'r cynnwys, a sicrhau cyfeiriadau a safleoedd gwe. Buont yn feddylgar, brwdfrydig a phroffesiynol ac yn sicr o fod yn werth bob dimai. Buasem yn fwy na bodlon eu hargymell i fusnesau tebyg i ni.'
Laurence Moncrieffe Curadur Oriel y Gader - ‘Mewn byr amser, llwyddodd Designbanc i ddeall yr hyn oedd gennym i'w gynnig i'r dim a'i drosglwyddo i ddelweddau a geiriau oedd yn portreadu'n busnes a hynny y tu hwnt i bob disgwyl.'
Jeremy Salisbury Gardner Salisbury Accountants - ‘Bu Designbanc yn arbennig o ddeinamig a phroffesiynol yn eu hymwneud â 'n anghenion cynllunio. Mae'r cyfathrebu rhyngddom wedi bod yn ardderchog a phopeth yn cael ei gwblhau mewn pryd. Gobeithiwn gael y cyfle i'w defnyddio eto a gallwn yn hawdd eu hargymell i'n cydnabod yn y byd busnes.'
Barry Woods T ŷ Gwyn Developments - Fel Gwerthwyr Tai roeddem yn gwybod yn union beth roeddym ei eisiau - diolch byth, roedd Designbanc yn gwybod yn well! Dychmygwch asiantaeth sy'n gwrando ar ei chleientiau, yn dehongli eu anghenion ac yn cyflawni'r cyfan gyda graen ac mewn da bryd. Designbanc – Siarp, ffres ac yn syth i'r pwynt - y gorau am greu delweddau.'
Julian Beresford Adams - Diolch am eich cefnogaeth a'ch cyngor yngl ŷ n â lansiad a marchnata fy musnes. Roedd eich dealltwriaeth o'r gofynion a'ch gallu i'w gweithredu trwy greu delwedd sydd bellach yn adnabyddus, yn sicr o fod wedi cyfrannu at lwyddiant y cwmni. Yn bennaf, gwn fod eich cefnogaeth a'ch ffyddlondeb yn gadarn, ac rwyf bob amser yn falch i'ch cymeradwyo i'm cwsmeriaid fy hun.'
Jean Hellon Coast & Marina Properties